P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gill Marshall, ar ôl casglu 4,338 llofnodion ar-lein, a 1,582 ar bapur, sef cyfanswm o 5,920 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae llawer o unedau ffermio dofednod dwys yng Nghymru. Powys yw un o’r mannau â’r nifer fwyaf o’r unedau hynny. Mae 147 o geisiadau unedau dofednod dwys wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Sir Powys. Mae’r unedau hyn yn dod â llawer o broblemau gyda nhw gan gynnwys llygredd afonydd a thir, arogl, amonia, traffig, sŵn a golau bob awr o’r dydd. I lawer o bobl, mae'r arfer o ffermio dofednod dwys yn greulon ac yn ddiangen.
Er i lawer o bentrefi gael eu difetha gan yr unedau hyn, nid oes unrhyw beth yn cael ei wneud i'w hatal. Mae angen i’n gwleidyddion weithredu.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Pentref bach arall ym Mhowys yw'r diweddaraf mewn rhestr hir i gael ei fygwth gan adeiladu uned ddofednod ddwys. Ardal wledig yw hon, ac mae trigolion y pentref ac ymwelwyr yn cerdded ar y ffyrdd yn rheolaidd. Mae'r dirwedd yn ysblennydd, nid oes llygredd golau ac mae'r distawrwydd yn fyddarol, sy’n hyfryd. Mae afon Cain yn llifo drwy'r pentref yn agos at y safle ac yn llifo i afon Hafren.
Er i lawer o bentrefi gael eu difetha gan yr unedau hyn, nid oes unrhyw beth yn cael ei wneud i'w hatal. Mae angen i’n gwleidyddion weithredu. Felly, mae'r ddeiseb hon yn ceisio cymell y gwleidyddion i ddeddfu; maent wedi addo gwneud hynny ers blynyddoedd; maent yn derbyn bod hwn yn fater difrifol ond nid oes deddfwriaeth o hyd.
Addawyd TAN ynghylch unedau dofednod dwys yn 2019. Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Amaeth, wedi dweud bod yn rhaid gwneud rhywbeth, yn enwedig o ran yr unedau llai. Ond rydym yn dal i aros.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Sir Drefaldwyn
· Canolbarth a Gorllewin Cymru